Awgrymiadau am ddiogelwch cerbydau

Defnyddiwch ddiogelwch gweladwy iawn h.y. cloeon a theclynnau llyw wedi cael sêl bendith gan Thatcham. Cloeon llyw ydy un o'r ffyrdd atal trosedd gorau.

Os nad oes gan eich cerbyd chi un, buddsoddwch mewn Larwm a System Dracio wedi cael sêl bendith gan Thatcham.

Cofrestrwch yr holl bethau gwerthfawr (sat navs a chamerâu cerbyd) ar Immobilise

Ystyriwch fuddsoddi mewn cap petrol sy'n cloi neu nytiau olwynion sy'n cloi

Gwnewch yn siŵr fod meddalwedd y cerbyd wedi’i ddiweddaru a bod 'adalwadau' wedi'u cwblhau – holwch y gwerthwr

Holwch eich gwerthwr pa fesurau diogelwch diweddar y gellir eu gosod ar gerbydau hŷn. Yn aml gall hyn gostio llai na'ch yswiriant gormodol

Sbïwch ar ddiogelu cerbydau hefo mynediad hawdd rhag ymosodiad gan ddau yma. Chwiliwch am ‘shielding for car keys' er mwyn dod o hyd i godau Faraday.

Yn y cartref – ystyriwch fuddsoddi mewn camerâu cylch cyfyng neu oleuadau diogelwch

https://www.northwales.police.uk/cp/crime-prevention/keeping-vehicles-safe/vehicle-safe-and-sound/

Mae bagio i fyny at wal neu wrthrych solet yn helpu gwneud cefn fan yn saff

Symudwch offer, stoc ac offer – yn enwedig dros nos

Ystyriwch fuddsoddi mewn cist offer fedrwch chi ei chloi sydd hefo achrediad gan Sold Secure neu Secured by Design

Defnyddiwch ddiogelwch gweladwy, h.y. cloeon llyw wedi cael sêl bendith gan Thatcham, rhwyllau ar ffenestri a pharwydydd llefydd llwytho, blychau pedal, cloeon Slam/cloeon Hykee

Marciwch yr holl offer ac eitemau gwerth uchel gan ddefnyddio beiros uwchfioled, marcio neu ysgythru eiddo hefo DNA

Cofrestrwch yr holl rifau cyfresol ar Immobilise

Gwnewch yn siŵr fod meddalwedd y cerbyd wedi’i ddiweddaru a bod 'adalwadau' wedi'u cwblhau – holwch y gwerthwr

Holwch eich gwerthwr pa fesurau diogelwch y gellir eu gosod ar gerbydau hŷn. Yn aml gall hyn gostio llai na'ch tâl dros ben yswiriant

Ymchwiliwch i ddiogelu cerbydau 'mynediad hawdd' ar Secured by Design

Yn y cartref – ystyriwch fuddsoddi mewn camerâu cylch cyfyng neu oleuadau diogelwch

https://www.securedbydesign.com/guidance/crime-prevention-advice/vehicle-crime/vans-tool-theft

Parciwch mewn meysydd parcio saff a phrysur, wedi'u goleuo'n dda. Cadwch lygad am arwydd Park Mark

Gwnewch yn siŵr fod eich to haul, drysau a ffenestri wedi cloi, hyd yn oed os byddwch chi’n gadael y cerbyd am ychydig funudau yn unig

Sicrhewch fod eich ffob wedi gwneud ei waith – gwiriwch ddwywaith a ydy'r drysau wedi'u cloi

Peidiwch â gadael unrhyw beth yn y golwg, dim hyd yn oed arian mân

Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr yn y blwch menig – bydd lladron fel arfer yn edrych yn fano yn gyntaf

Cuddiwch geblau a thynnwch farciau padiau sugno ar eich ffenestr flaen a'ch dangosfwrdd

Daliwch afael yn eich goriadau bob amser – mae gwybodaeth yn dweud bod golchfeydd ceir a garejis hyd yn oed yn copïo allweddi

Edrychwch ar y dolenni hyn: https://www.securedbydesign.com/guidance/crime-prevention-advice/vehicle-crime
https://www.northwales.police.uk/cp/crime-prevention/keeping-vehicles-safe/car-protection-damage/

Clowch eich beic bob amser a thynnwch unrhyw bethau ychwanegol lle bynnag y bo modd

Gosodwch gadwyn ddolen a'i chloi trwy ffrâm y beic a'r olwyn gefn (mae'n hawdd tynnu'r olwynion blaen)

Rhowch eich beic yn sownd wrth wrthrych na ellir ei symud e.e. rheiliau neu bolyn lamp.

Defnyddiwch glo disg er mwyn cadw disg brêc blaen yn saff – sy'n atal eich beic rhag cael ei ddwyn

Ystyriwch glo gafael sydd wedi'i gynllunio er mwyn cadw’r rheolyddion brêc a sbardun yn saff

Argymhellir dau glo D 'Sold Secure'. Dewch o hyd i gynhyrchion sy'n destun prawf diogelwch yn Sold Secure

Cofrestrwch eich rhifau cyfresol(beic/ategolion) ar Immobilise.

Ystyriwch brynu gorchudd beic – mae cuddio’ch beic o’r golwg yn rhwystr

Edrychwch ar y dolenni hyn: https://www.northwales.police.uk/cp/crime-prevention/keeping-vehicles-safe/how-safe-is-your-bike/
https://www.northwales.police.uk/cp/crime-prevention/keeping-vehicles-safe/theft-motorcycles-scooters/

Parciwch mewn lleoliadau a meysydd parcio prysur wedi'u goleuo'n dda, ac sy'n saff

Byddwch yn ymwybodol o bethau amheus – gwiriwch o gwmpas a thu mewn i’ch cerbyd

Paratowch eich allweddi wrth i chi ddynesu a chlowch eich cerbyd unwaith y byddwch y tu mewn

Peidiwch ag agor eich ffenestr yn llawn os oes angen i chi siarad hefo rhywun

Cymerwch allweddi eich car – hyd yn oed os ‘da chi wedi gadael teithiwr yn y car

Mewn argyfwng, canwch y corn a ffoniwch 999