Roedd perchnogion y tŷ i ffwrdd mewn priodas ffrind.
Roedden nhw wedi mynd mewn un car, gan adael y llall ar y dreif.
Gan ddefnyddio'r bin i sefyll arno, roedd y lladron yn gallu ymestyn dros y giât ochr a rhyddhau'r bollt oedd heb ei wneud yn saff.
Roedd y sied heb ei chloi yn caniatáu i'r lladron ddefnyddio offer y teulu eu hunain a hynny yn eu herbyn.
Fe wnaethon nhw agor y drws cefn hefo rhaw yr oedden nhw wedi'i chymryd o'r sied.
Fe wnaethon nhw chwilio'r tŷ yn chwilio am arian ac eitemau o werth i'w gwerthu.
Daethant o hyd i oriadau ail gar y teulu.
Fe wnaethon nhw fwndelu'r holl eitemau mewn casys gobenyddion a gafodd eu dwyn o'r tŷ, llwytho'r car a gyrru i ffwrdd.
Mynnwch yr awgrymiadau diweddaraf ar gadw'ch cartref yn ddiogel