Syniadau am ddiogelwch cartref

Os yw’n bosibl, dylai fod gan ddrysau ffrynt gadwyn drws a gwyliwr.

Mae gan ddrysau newydd gyfyngiadau llym ar faint yr agorfa yn ogystal â chyfyngwyr corfforol yn aml er mwyn atal unrhyw un rhag cyrraedd y tu mewn. Gelwir y rhain fel arfer yn orchuddion blwch llythyrau neu'n gyfyngwyr. Mae'r rhain ar gael yn eang i'w prynu ac yn hawdd eu gosod.

Yn ddelfrydol, dylai drysau cefn pren fod hefo clo mortais â phum lifer a dwy follt.

Dylai fod gan ddrysau neu ddrysau UPVC hefo Silindrau Ewro silindrau ailosod DHF TS007 3-Star, neu silindrau Sold Secure Standard Anti-Bump. Ymgynghorwch bob amser hefo saer cloeon achrededig o Gymdeithas Meistri'r Seiri Cloeon os ‘da chi ddim yn siŵr. Gall Silindrau Ewro sydd wedi'u gosod yn wael beryglu eich diogelwch chi.

Wrth osod cynhyrchion diogelwch, defnyddiwch folltau cryf a sgriwiau hir bob amser. Dilynwch ganllawiau'r gwneuthurwr neu ymgynghorwch hefo arbenigwr gan ddefnyddio'r canllaw gan Gymdeithas Meistri'r Seiri Cloeon.

Dylid defnyddio gwydr diogelwch wedi'i lamineiddio ym mhob man gwydrog.

Dylid gludo gleinwaith pren a'i osod yn ddiogel.

Yn achos UPVC, dylai'r gleinwaith fod yn fewnol. Gall ffenestri UPVC hŷn (gleiniau allanol) gael y gleinwaith wedi'i selio yn ei le.

Mae'r rhan fwyaf o ddrysau patio modern yn ymgorffori system gloi aml-bwynt. Ar unedau hŷn, neu'r rhai sydd heb glo aml-bwynt, dylid gosod cloeon drysau patio cymeradwy ar ben a gwaelod y drws llithro. Sicrhewch fod dyfais 'gwrth-godi' yn cael ei defnyddio gan y bydd hyn yn atal y drws llithro rhag cael ei lifro oddi ar ei redwyr.

Dylai drysau patio fod yn DHF TS007 3-Star, neu fod wedi'u ffitio hefo silindrau amnewidiad Sold Secure Diamond Standard Anti-Bump. Ymgynghorwch bob amser hefo saer cloeon achrededig o Gymdeithas Meistri'r Seiri Cloeon os ‘da chi’n ansicr. Gall Silindrau Ewro sydd wedi'u gosod yn wael beryglu eich diogelwch.

Dylai cloeon ffenestri gael eu gosod ar bob ffenest ar y llawr gwaelod a'r rhai sy'n agor i fannau hygyrch fel balconïau neu doeau (oni bai eu bod nhw’n ddihangfa ddynodedig).

Gan fod y rhain yn gyffredinol yn agor tuag allan a bod ganddynt golfachau agored, gallan nhw fod yn agored i gael eu hagor gan sgriwdreifers neu offer garddio.

Gellir gwella diogelwch ar ffenestri pren a ffrâm fetel trwy osod mortais neu folltau diogelwch wedi'u gosod ar yr wyneb ar y top a'r gwaelod y tu mewn, ynghyd â bolltau colfach ac atgyfnerthu ffrâm.

Wrth ailosod drysau a ffenestri, chwiliwch am gynhyrchion sydd wedi cael eu profi i safon PAS 24 o 2022 ymlaen ac yn cario'r logo Secured by Design.

Mae mannau agored i niwed yn cynnwys ffenestri Ffrengig, drysau allanol gwydrog a ffenestri drws nesaf i unrhyw ddrws. Ym mhob un o'r achosion hyn dylid defnyddio gwydr diogelwch wedi'i lamineiddio.

BYDDWCH YN YMWYBODOL AM WYDR DIOGELWCH 'CYFAILL Y LLEIDR'

Mae'r math hwn o wydr yn chwalu'n filoedd o ddarnau bach heb unrhyw ymylon miniog, gan gynnig mynediad i gyrraedd neu ddringo drwyddo. Ni ddylid drysu rhwng gwydr diogelwch gwytnach a gwydr diogelwch wedi'i lamineiddio. Os ‘da chi ddim yn siŵr, holwch weithiwr gwydro proffesiynol.

Mewn unedau gwydr dwbl, gwydr wedi'i lamineiddio (mewnol ac allanol) sy'n cynnig yr amddiffyniad gorau. Fodd bynnag, dylai un cwarel o wydr wedi'i lamineiddio fod yn ddigon i atal mynediad. Yn gyffredinol, argymhellir gosod y cwarel wedi'i lamineiddio ar y tu mewn, er mwyn amddiffyn rhag byrgleriaeth a lleihau'r risg o anafiadau damweiniol i'r preswylwyr.

  • Clowch bob drws a ffenestr
  • Clowch eich garej, a diogelwch offer
  • Cofiwch ganslo'r llefrith a'r papurau
  • Gofynnwch i ffrind neu gymydog gasglu eich post.
  • Tynnwch eich llenni a gwnewch eich cartref edrych fel petai rhywun yn byw ynddo.
  • Marciwch eich eiddo gwerthfawr.
  • Torrwch y lawntiau.
  • Gosodwch switshis amserydd goleuadau a radio.
  • Osgowch arddangos eich enw a'ch cyfeiriad ar eich bagiau. (Rhowch eich cyfeiriad y tu mewn i'r cas er mwyn helpu eu hadnabod nhw os ydy'r bagiau'n mynd ar goll).
  • Cuddiwch ddogfennau ariannol a goriadau – os yn bosibl, defnyddiwch gist ddiogel.
  • Peidiwch â sôn ar gyfryngau cymdeithasol neu eich peiriant ateb y byddwch ddim adref.
  • Ystyriwch gadw eitemau gwerthfawr /drudfawr mewn blwch saf – bydd eich banc neu gwmni yswiriant yn gallu rhoi cyngor addas.
  • Os ‘da chi’n cadw eich gemwaith gwerthfawr /drudfawr gartref, prynwch sêff addas a gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i osod fel mae cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn ddweud. Bydd eich cwmni yswiriant chi’n rhoi cyngor ar y math o sêff sy'n gweddu orau i'ch anghenion. Byddan nhw hefyd yn cynghori a ydy eich yswiriant cartref yn darparu digon o yswiriant ar gyfer gemwaith gwerth uchel.
  • Mae'n bwysig eich bod yn cadw rhestr o'ch gemwaith. Gellir gwneud hyn mewn fersiwn papur neu ar-lein ar Immobilise. Cynhwyswch farciau adnabod, delweddau, gwerth a dyddiad/ gwybodaeth am y pryniant wrth lanlwytho i Immobilise.
  • Mae angen ystyried gerddi a siediau hefyd wrth i'r nosweithiau tywyllach agosáu
  • Gellir defnyddio offer garddio ac offer DIY i fynd i mewn i'ch tŷ. Rhowch eich offer i ffwrdd a gwnewch yn siŵr fod siediau allanol a chypyrddau storio wedi'u cloi'n ddiogel.
  • Clowch unrhyw offer cadwyn, beiciau, peiriannau torri gwair, ysgolion a phethau gwerthfawr eraill y tu mewn i sied neu garej yn saff.
  • Dewch ag offer i mewn os nad oes gynnoch chi sied neu garej.
  • Marciwch eitemau hefo’ch cod post a rhif tŷ – mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i eiddo sydd wedi’i ddwyn a’i adnabod.
  • Cadwch lygad yn rheolaidd fod ffensys a gatiau mewn cyflwr da a gwiriwch ardaloedd sydd wedi gordyfu lle gallai rhywun guddio.

(gan gynnwys SIEDAU, GAREJIS A THAI GWYDR)

Mae siediau gardd neu garejis heddiw yn gartref i eitemau trydanol drud, pob math o feiciau ac eitemau eraill ar restr dymuniadau troseddwyr bachog. Triniwch eich sied neu garej fel estyniad i'ch tŷ a rhowch yr un lefelau o ddiogelwch iddo.

  • Cadwch yr holl offer a chyfarpar a gwnewch yn siŵr bod siediau/garejis yn cael eu cloi gan ddefnyddio cloeon solet a diogel.
  • Gosodwch oleuadau diogelwch allanol sy'n cynnau yn awtomatig yn y cyfnos.
  • Os oes gynnoch chi larwm lladron, siaradwch hefo’ch gosodwr ynghylch ei ymestyn er mwyn cwmpasu adeiladau allanol, garej a siediau.
  • Cofrestrwch eich pethau gwerthfawr am ddim ar y gronfa ddata eiddo genedlaethol www.immobilise.com

Dilynwch y rheol 'cloi, goleuadau ymlaen' pan fydd y clociau'n mynd yn ôl.

  • Mae nosweithiau tywyll yn darparu cysgod ardderchog i leidr sy'n sleifio i mewn ac sy'n gweld ffenestr agored mewn ystafell wag; yn gweld eich pethau gwerthfawr trwy lenni neu gysgodlenni agored; neu’n mentro’u lwc hefo drws heb ei gloi.
  • Peidiwch â gadael goriadau’n y clo nac ar fwrdd ochr yng ngolwg ffenestr gan y bydd yn hawdd i leidr eu cyrraedd drwy eich blwch llythyrau.
  • Peidiwch â gadael eitemau mewn cynteddau agored y gellid eu defnyddio i ddod i mewn i'ch cartref, e.e. ymbarelau hefo handlen grwm er mwyn agor drysau neu oriadau wedi'u gollwng drwy flychau llythyrau.
  • Clowch eich drws ffrynt o'r tu mewn bob amser – yn enwedig drysau ffrynt UPVC sydd hefo dolenni, gan fod y rhain yn aml yn cael eu gadael heb eu cloi pan fydd pobl yn y tŷ. Mae lladron yn gwybod hyn!
  • Sicrhewch ddrysau UPVC trwy osod clo silindr sy'n gwrthsefyll snap, wedi'i ardystio i safon TS007. Gall seiri cloeon achrededig roi cyngor ar gynhyrchion a argymhellir.

Os buasech yn hoffi rhagor o gyngor, neu os oes angen i chi roi gwybod am ladrad cliciwch yma i weld ein tudalen ‘byrgleriaeth’ bwrpasol.

  • Mae gweithwyr ffug yn aml yn honni bod angen iddyn nhw ddod i mewn i'ch cartref er mwyn gwneud atgyweiriadau brys neu wirio rhywbeth. Gallan nhw hefyd gynnig gwneud gwaith cynnal a chadw eiddo, yn aml yn gofyn am arian parod ymlaen llaw heb wneud unrhyw waith.
  • Os oes angen i chi wneud gwaith yn eich cartref, mynnwch sawl dyfynbris ysgrifenedig gan gwmnïau hefo enw da cyn gwneud penderfyniad.
  • Peidiwch byth â theimlo o dan bwysau i ganiatáu galwr annisgwyl i mewn i'ch cartref.
  • Ffoniwch eu cwmni nhw o'r rhif yn eich llyfr ffôn, nid yr un ar eu cerdyn busnes nhw.
  • A chofiwch, nid oes sefydliad o'r fath â'r 'Bwrdd Dŵr'.

Os hoffech ragor o gyngor ar alwyr ffug, cliciwch yma er mwyn gweld ein tudalen ‘byrgleriaeth trwy dynnu sylw’ bwrpasol.